Âé¶¹´«Ã½ÍŶÓ

Cyn aelod o'r Lluoedd Arfog

Soldier in uniform

Ydych chi'n gyn aelod o'r Lluoedd Arfog?

Cymaint o wybodaeth a phrofiad… ydych chi’n gyn aelod o’r Lluoedd Arfog ac yn pendroni ynghylch beth yw gwerth y wybodaeth a’r sgiliau rydych wedi meithrin yn ystod eich gwasanaeth, yn ôl yn y byd sifilaidd?

Armed forces marching in parade

Cynllun Credydau Dysgu Uwch (ELCAS)

O dan y , mae cynllun ELCAS wedi ei ddylunio i gynorthwyo Personél y Lluoedd Arfog, Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) gyda hyfforddiant fydd yn cyfoethogi eu gyrfa bresennol, neu yn y dyfodol.

Mae’r cymorth hwn ar ffurf taliad blynyddol am hyd at dair blynedd.

Gall personél sydd wedi gadael y Lluoedd Arfog ennill hyd at ddau draean o radd israddedig a hyd at ddau draean o radd meistr, yn seiliedig ar y wybodaeth a hyfforddiant maent wedi eu meithrin wrth wasanaethu.

Mae’r cynllun yn asesu eich sgiliau a phrofiad gan gynnwys y rheiny rydych wedi meithrin heb hyfforddiant ffurfiol. Nid yw’n angenrheidiol eich bod yn meddu ar gymwysterau ffurfiol megis TGAU a Lefel A i gychwyn y cwrs.

Mae’n gyfle gwych i chi ganfod pa bosibiliadau sydd yn bodoli i chi, ac i gael ychydig o fantais mewn cychwyn gyrfa newydd.

Dewch i un o’n diwrnodau agored i ganfod mwy.