Peirianneg

Llunio鈥檆h dyfodol gyda gyrfa mewn peirianneg
Mae peirianneg yn llunio鈥檙 byd o鈥檔 cwmpas - o鈥檙 ceir yr ydym yn eu gyrru i鈥檙 dechnoleg a ddefnyddir gennym yn ddyddiol Mae galw mawr am beirianwyr, felly mae鈥檔 ddewis doeth ar gyfer gyrfa, pa bynnag gam bywyd yr ydych arno.
Ar ein cyrsiau peirianneg byddwch yn cael cymwysterau sy鈥檔 cael eu cydnabod gan y diwydiant, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa gyffrous yn y diwydiant deinamig hwn. Rydym yn cynnig cyrsiau ledled ein campysau, gan gynnwys ein Canolfan Peirianneg Uchel ei Werth arloesol (HiVE).
Byddwch yn dysgu mewn gweithdai o鈥檙 radd flaenaf
Byddwch yn datblygu eich sgiliau gan ddefnyddio:
- Offer llaw a pheirianyddol traddodiadol
- Peiriannau modern a reolir gan gyfrifiaduron
- Technoleg brototeipio cyflym
- Llwybrau peirianneg arbenigol






Mae peirianwyr mecanyddol yn dylunio, datblygu, a chynnal peiriannau a systemau mecanyddol - o awyrennau a dyfeisiadau meddygol i injians ac offer. Byddwch yn dysgu sut i fynd 芒 chynnyrch o gysyniad i gwblhad, gan ganolbwyntio ar swyddogaeth, gwytnwch, ac effeithlonrwydd i ddatrys heriau鈥檙 byd go iawn.
O ffonau clyfar a cherbydau trydan i orsafoedd p诺er ac awtomeiddio鈥檙 cartref, mae peirianwyr trydanol ac electronig yn cadw鈥檙 byd modern i fynd. Gyda chynaliadwyedd ac ynni gwyrdd yn llywio鈥檙 dyfodol, ni fu鈥檙 galw am beirianwyr medrus erioed yn uwch. Byddwch yn archwilio trydan, dargludiad, ac electromagneteg, gan ddysgu sut i adeiladu a chynnal systemau trydanol hanfodol.
Mae peirianwyr sifil yn cynllunio, adeiladu, a chynnal seilwaith ein trefi a鈥檔 dinasoedd. O bontydd a thwneli i nendyrau a stadiymau, mae鈥檙 maes hwn yn cyfuno adeiladu, gwyddoniaeth amgylcheddol, a pheirianneg strwythurol. Byddwch yn defnyddio technoleg uwch a deunyddiau i greu strwythurau sy鈥檔 gynaliadwy, yn ddiogel, ac wedi鈥檜 hadeiladu i bara.
Gyda datblygiadau cyflym mewn ceir, beiciau modur, cerbydau trydan, a chwaraeon modurol, mae galw cynyddol am beirianwyr modurol. Mae鈥檙 maes yn cynnwys popeth o systemau injan a thechnoleg tanwydd i thermodynameg a diogelwch cerbydau - diwydiant arloesol gyda chyfleoedd gyrfa byd eang.
Mae dewisiadau di-ben-draw gyda pheirianneg awyrenegol. O archwilio鈥檙 gofod i bobl yn teithio, mae鈥檙 maes hwn yn canolbwyntio ar fecaneg hedfan, systemau awyrennol, ac aerodynameg. Wrth i dechnoleg ddatblygu, bydd peirianwyr awyrenegol yn chwarae r么l allweddol wrth lywio dyfodol teithiau awyr a gofod.
Mae saern茂o a weldio yn hanfodol mewn peirianneg ac adeiladu. Gan ddefnyddio ystod o dechnegau torri, uno, a siapio, byddwch yn gweithio gyda deunyddiau fel dur ac aloiau i weithgynhyrchu cydrannau a strwythurau. Mae angen seiri a weldwyr medrus mewn sawl sector, sy鈥檔 cynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol.

I ble y gall peirianneg fynd 芒 chi?
Mae peirianneg yn cynnig cyfleoedd diddiwedd i arloesi, adeiladu a datrys problemau byd go iawn. P'un a ydych chi'n rhywun sy鈥檔 ymarferol neu'n canolbwyntio ar ddylunio, mae yna lwybr gyrfa sy'n cyd-fynd 芒'ch angerdd a sgiliau.
Mae cymhwyster mewn peirianneg yn agor drysau i ystod o yrfaoedd cyffrous, gan gynnwys:
- Peiriannydd modurol
- Peiriannydd dylunio
- Technegydd peirianneg
- Saer a weldiwr
- Peiriannydd mecanyddol
- Peiriannydd trydanol
- Peiriannydd cynhyrchu
- Adeiladwr llongau neu bontydd
- Peiriannydd chwaraeon modur
- Gweithredwr peiriannau
- Rheoli peirianneg
Oriel

















Cychwynnwch ar eich gyrfa beirianneg heddiw
Mae peirianneg yn cynnig cyfleoedd diddiwedd i arloesi, adeiladu a datrys problemau byd go iawn. P'un a ydych chi'n rhywun ymarferol neu'n seiliedig ar ddylunio, mae yna lwybr gyrfa i gyd-fynd 芒'ch angerdd a sgiliau.
Edrychwch ar ein cyrsiau llawn amser, rhan amser a lefel prifysgol heddiw a chymerwch y cam cyntaf tuag at ddyfodol mewn peirianneg.