Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir

Beth am droi eich angerdd yn rhywbeth pwrpasol
Os ydych wastad wedi breuddwydio am weithio gydag anifeiliaid neu ofalu am yr amgylchedd, rydych yn y lle cywir.
P’un a ydych yn gadael yr ysgol, newid gyrfa, neu’n awyddus i uwchsgilio, mae ein cyrsiau gofal anifeiliaid, ceffylau ac ar y tir yn cynnig hyfforddiant ymarferol, cefnogaeth arbenigol, a phrofiad o’r byd go iawn i’ch cynorthwyo i ddatblygu gyrfa y byddwch wrth ei bodd gyda hi.
Dysgwch mewn amgylchedd unigryw
Ar gampws gwledig Âé¶¹´«Ã½ÍÅ¶Ó ym Mrynbuga, bydd tiwtoriaid profiadol yn y diwydiant yn eich dysgu mewn cyfleusterau unigryw yn Ne Ddwyrain Cymru. Byddwch yn gweithio gydag anifeiliaid a’r tir yn ddyddiol - gan feithrin sgiliau, hyder, a chymwysterau ar hyd y ffordd.
Mae'r cyfleusterau arbenigol yn cynnwys:
Byddwch, nid yn unig yn dysgu am anifeiliaid a byd natur, ond yn cael profiadau uniongyrchol.
- Canolfan Hyfforddi ac Asesu Lefel 4 a Gymeradwywyd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain
- Canolfan bwrpasol i ofalu am anifeiliaid bach
- Canolfan farchogaeth llawn offer
- Fferm weithio fawr ac ardaloedd coetir ar gyfer cyrsiau ar y tir



Os ydych chi’n dwlu ar anifeiliaid a hoffech chi droi’r angerdd hwnnw yn yrfa, mae ein cyrsiau Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid yn lle gwych i ddechrau. Byddwch chi’n gweithio’n ymarferol gydag amrywiaeth o anifeiliaid wrth ddysgu am iechyd, ymddygiad, maeth a lles. Trwy gymorth arbenigol, byddwch chi’n meithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer rolau ym meysydd achub anifeiliaid, trin anifeiliaid, gwerthu anifeiliaid anwes, sŵ neu filfeddygfeydd.
Oes well gennych chi’r awyr agored? Mae ein cyrsiau Astudiaethau ar y Tir yn llawn hyfforddiant ymarferol ym meysydd cynnal a chadw ystâd, amaeth a gofal amgylcheddol. Byddwch chi’n ennill profiad ymarferol o ran peirianwaith, yn dysgu sut i reoli tir a chynefinoedd, ac yn datblygu sgiliau ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd ffermio, contractio tir neu gadwraeth. Gallwch chi hefyd roi hwb i’ch sgiliau trwy gyrsiau proffesiynol byr megis ymdrin â llif gadwyn a gosod plaladdwr, gan roi cymwysterau i chi sydd wedi’u cydnabod gan ddiwydiant.
Os ydych chi’n dwlu ar geffylau, byddwch chi wrth eich bodd ar ein cyrsiau Ceffylau. Byddwch chi’n dysgu popeth o ofalu am geffylau a rheoli stablau o ddydd i ddydd i farchogaeth, maeth, anatomeg a, hyd yn oed, sgiliau busnes. Cynhelir yr hyfforddiant yn ein canolfan geffylau a gymeradwywyd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain, sy’n cynnwys arena dan do ac awyr agored, ysgol drawsgwlad ac iard gweithredol. Mae opsiynau marchogaeth ac opsiynau nad ydynt yn cynnwys marchogaeth ar gael felly gallwch chi deilwra eich dysgu i gyd-fynd â’ch nodau gyrfa – os yw hynny’n ymwneud â gweithio mewn ysgol farchogaeth, lleoliad therapi neu ddiwydiant ceffylau ehangach.

Dyfodol y gallwch fod yn falch ohono
Gall ein cyrsiau arwain at yrfaoedd gwerth chweil mewn:
- Nyrsio milfeddygol
- Gofal anifeiliaid a phrydferthu
- Ffermio ac amaethyddiaeth
- Therapi ceffylau a rheoli
- Cadwraeth bywyd gwyllt
- Rheoli tir a choedwigaeth
Oriel























Beth am droi eich angerdd am anifeiliaid a’r tir yn yrfa lewyrchusÌý
Beth am ddatgloi rhagolygon gyrfa gyffrous a chyfleoedd mewn gofal anifeiliaid, astudiaethau ceffylau, a diwydiannau ar y tir.
Porwch drwy ein hystod amrywiol o gyrsiau llawn amser, rhan amser, a lefel prifysgol, a chychwynnwch ar daith tuag at yrfa y byddwch wirioneddol yn ei charu.