Sut i Wneud Cais Llawn amser

Sut i wneud cais ar gyfer cwrs amser llawn mewn 5 cam hawdd
Sut i wneud cais ar gyfer cwrs amser llawn mewn 5 cam hawdd
Ymgeisio Ar-lein
Dechreuwch drwy ddod o hyd i gwrs sydd at eich dant ar ein gwefan. Gallwch wneud cais ar gyfer un cwrs llawnamser ar y tro, felly dewiswch yr un sydd mwyaf addas i chi ac yna cliciwch ar ymgeisiwch.Ìý
Mae'r broses ymgeisio yn cymryd rhai munudau yn unig ac mae ganddi bum cam sydyn. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost personol fel ein bod yn gallu rhannu diweddariadau pwysig gyda chi.Ìý
Llenwch bob adran, gan gynnwys eich graddau TGAU a ragwelir, yna cliciwch ar cyflwyno unwaith eich bod yn barod.Ìý
Angen help llaw? Gallwch ffonio, anfon e-bost neu gael sgwrs ar-lein gyda'n Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar:Ìý
Sgwrs fyw ar ein gwefanÌý

Cynnig Amodol
Unwaith ein bod wedi adolygu eich cais, byddwn yn anfon neges e-bost atoch gyda chynnig (cyhyd â bod eich graddau a ragwelir yn bodloni gofynion mynediad y cwrs). Anfonir manylion i'ch cyfrif e-bost ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i dderbyn y cynnig.
Os nad yw eich graddau yn bodloni'r meini prawf mynediad yn gyfan gwbwl, bydd rhywun o'n tîm yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau.

Derbyn Eich Cynnig
Mewngofnodwch i Porth CG a dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost gyda'ch cynnig er mwyn cadarnhau eich lle.

Cofrestru
Mae'r adeg gofrestru fel arfer yn digwydd yn ystod pythefnos olaf mis Awst. Byddwn yn anfon neges e-bost atoch gyda gwahoddiad sy'n gynnwys eich slot amser — byddwch yn brydlon i osgoi colli eich lle.
Dewch â'ch canlyniadau arholiad presennol er mwyn i ni allu cadarnhau eich bod yn bodloni meini prawf mynediad eich cwrs o ddewis. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid, cael manylion am eich dosbarthiadau cyntaf a dysgu sut i gael mynediad at eich amserlen. Yn ogystal â hyn, mae’n gyfle gwych i ddod yn gyfarwydd â'r campws a chwrdd eich cyd-ddysgwyr cyn dechrau yn y coleg ym mis Medi.
DYSGWYR SY'N DYCHWELYD AC SY'N SYMUD YMLAENÌý
Os ydych chi'n symud ymlaen i lefel nesaf eich cwrs, neu'n symud i faes pwnc arall, yna bydd yr adeg gofrestru yn digwydd ym mis Awst a byddwch yn cael neges e-bost yn nes at yr amser yn eich gwahodd i'r coleg i gyflawni hyn.
Os ydych chi'n cofrestru ar gyfer ail flwyddyn eich cwrs Lefel 3, bydd cofrestriad amodol yn cael ei ychwanegu ar eich cyfer cyn gorffen am yr haf.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, siaradwch â'ch tiwtor neu Dîm Cymorth CG.

Dechrau yn y coleg
Mae'r Coleg yn dechrau yn gynnar ym mis Medi. Byddwch yn cael neges e-bost i'ch cyfeiriad e-bost coleg sy'n cynnwys eich dyddiad dechrau a manylion am sut i weld eich amserlen drwy'r ap CG Connect.
Gallai gymryd rhai dyddiau ar ôl cofrestru i amserlenni gael eu hychwanegu at yr Ap CG Connect, ac maent hefyd yn gallu newid ar unrhyw adeg hyd at ddechrau'r tymor newydd. Felly, caniatewch rywfaint o amser am hyn, a pharhewch i wirio CG Connect am ddiweddariadau.
