Yn gryno
Byddwch yn cael sylfaen gadarn mewn cyfrifiadura, gan gyfeirio'n benodol at yr elfen seiber, dadansoddi, dylunio a systemau gwybodaeth.
... ydych yn gweithio yn y diwydiant ond os ydych eisiau cymhwyster ffurfiol ...
ydych yn chwilio am yrfa newydd sbon ...
... Ydych chi am gael dealltwriaeth eang ond dofn o gyfrifiadura, systemau gwybodaeth a'r elfen seiber
Blwyddyn 1 - Lefel 4
Bydd myfyrwyr yn astudio chwe modiwl 20 credyd ar lefel 4 ac mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Systemau a Phensaern茂aeth Cyfrifiaduron
- Offer a Thechnegau Seiberddiogelwch
- Systemau Gwybodaeth
- Technolegau Rhwydwaith ar Waith
- Rhaglennu ar gyfer Seiberddiogelwch
- Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd
Bydd Lefel 4 yn eich darparu 芒 throsolwg eang o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau a galluoedd cymwysedig, cyn i chi gael yr opsiwn i symud ymlaen i Lefel 5.
Ar lefel 5 byddwch chi'n astudio ar un o'r pum modiwl ganlynol:
- Ffurfweddu Rhwydweithiau
- Ffurfweddu Rhwydweithiau
- Sicrwydd Gwybodaeth a chydymffurfiad
- Prosiect Ymarferydd Gr诺p Seiberddiogelwch
- Cysyniadau Systemau Diogelwch
Mae'r modiwlau hyn yn parhau 芒'r thema o ddefnyddio tasgau ymarferol ac agored i ganiat谩u myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o'r cysyniadau a gwmpaswyd yn ogystal 芒 sgiliau ymarferol a gwerthfawrogiad o ddylanwad y cyd-destun. Mae asesiadau yn aros yn amrywiol gyda chyfuniad sydd yn cynnwys gwaith ymarferol ysgrifenedig, portffolio a chyflwyniad ar lafar.
Gall myfyrwyr symud ymlaen i ail flwyddyn BSc (Anrhydedd) Seiber ym Mhrifysgol De Cymru.
Ystyrir pob cais ar sail unigol.
Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed feddu ar o leiaf 3 TGAU (gradd C neu'n uwch) sy鈥檔 cynnwys naill ai Saesneg neu Gymraeg, a naill ai Mathemateg neu un o鈥檙 gwyddorau, yn ogystal 芒 chymhwyster L3 (megis Diploma Cenedlaethol BTEC) sy'n gyfwerth neu'n uwch na 48 pwynt UCAS.
Cyfrifiannell tariffau UCAS
Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21+ oed), ac ystyrir ceisiadau ar sail unigol. Er nad yw cymwysterau ffurfiol yn ofynnol, mae diddordeb yn y pwnc, yn ogystal ag ymrwymiad ac awydd i ddysgu, yn hanfodol.
Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.