Yn gryno
Byddwch yn cyfuno sgiliau technegol ar gyfer cynnal a chadw cyfrifiaduron personol gyda sgiliau meddalwedd Lefel 2 i ddatblygu dull mwy cytbwys o ymdrin 芒 chymorth systemau.
.. ydych eisiau datblygu gwybodaeth a sgiliau pellach mewn TG
... ydych eisiau symud yn eich blaen at gwrs Addysg Uwch mewn TG
... ydych yn anelu at yrfa ddynamig mewn technoleg gwybodaeth
Byddwch yn dysgu mwy am osod caledwedd a meddalwedd, cynnal a chadw cyfrifiaduron personol a sgiliau cywiro diffygion er mwyn mynd yn eich blaen i鈥檙 diwydiant TG.
Trwy astudio cymhwyster Defnyddwyr TG Lefel 2, byddwch yn gwella eich sgiliau cymorth yn y swyddogaeth TGCh. Bydd y cymhwyster Defnyddwyr TG yn eich galluogi i ddefnyddio amrywiaeth o gymwysiadau a systemau meddalwedd.
Byddwch yn dilyn unedau fel:
- Nodweddion sylfaenol cydrannau systemau cyfrifiadurol
- Diagnosio problemau
- Iechyd a Diogelwch
- Cydosod, datgymalu, gosod a chynnal a chadw system bwrdd gwaith
- Rhwydweithio
- Diogelwch cyfrifiadurol
Gall y cwrs hwn eich helpu i symud yn eich blaen at amrywiaeth o rolau TGCh, yn cynnwys:
- Technegydd desg gymorth systemau
- Gweinyddwr cronfeydd data
- Datblygwr cynhyrchion TG
Byddwch yn cael eich asesu drwy gydol y flwyddyn academaidd trwy gyfrwng aseiniadau ymarferol a byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:
- Diploma City & Guilds Lefel 2 mewn Cymorth Systemau
- Diploma City & Guilds Lefel 2 mewn Defnyddwyr TG (ITQ)
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
I ymuno 芒鈥檙 cwrs, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol, yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Rhaid ymrwymo鈥檔 llwyr i fynychu鈥檙 cwrs. Mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn 芒鈥檙 pwnc a hunangymhelliant yn nodweddion hanfodol a ddisgwyliwn gan bob un o鈥檔 dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu鈥檔 barhaus a disgwylir ichi barhau 芒鈥檆h astudiaethau a鈥檆h gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn TG.
Lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu鈥檔 uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys gradd TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Mae鈥檙 holl gostau鈥檔 cael eu hadolygu a gallant newid.