Âé¶¹´«Ã½ÍŶÓ

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Cyfrifiadura Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Bydd dysgwyr yn datblygu craidd cyffredin o wybodaeth TG a meysydd astudiaeth megis: y perthynas rhwng caledwedd a meddalwedd sydd yn ffurfio systemau TG, rheoli a phrosesu data, defnyddio TG i gyfathrebu ac i rannu gwybodaeth a sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn edrych ar egwyddorion dylunio a datblygu rhaglennu cyfrifiadur er mwyn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen nid yn unig ar y sector cyfrifiadura ond ar bob sector sy’n defnyddio technoleg yn y byd modern.

… Ydych am gael cyfuniad o wybodaeth TG a sgiliau ymarferol

… Ydych chi’n frwdfrydig am dechnoleg

… Yn mwynhau bod yn greadigol

Dyluniwyd y rhaglen i ddatblygu eich sgiliau technegol ym meysydd diogelwch systemau, datblygu meddalwedd a dylunio gemau.

Byddwch yn astudio unedau craidd yn y flwyddyn gyntaf, ac yna symud ymlaen i Ddiploma Estynedig yn yr ail flwyddyn. Byddwch yn astudio ystod eang iawn o bynciau TG a allai gynnwys:

Blwyddyn 1:

  • Systemau technoleg gwybodaeth (arholiad)
  • Creu systemau i reoli gwybodaeth (arholiad)
  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn busnes
  • Rhaglennu
  • Datblygu gwefannau
  • Datblygu gemau cyfrifiadur

Blwyddyn 2:

  • Seibrddiogelwch a rheoli digwyddiadau (arholiad)
  • Darparu gwasanaethau TG (arholiad)
  • Rheoli prosiectau TG
  • Storio ac offer cydweithio ar y cwmwl
  • Graffigwaith digidol 2D a 3D
  • Animeiddiad ac effeithiau digidol
  • Y rhyngrwyd o bethau

Cewch eich asesu drwy waith cwrs ac arholiadau yn y blynyddoedd cyntaf ac ail, a byddwch yn cyflawni:

Er mwyn ymrestru, bydd angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu’n uwch arnoch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf ar radd C neu’n uwch.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol. Parch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunan-gymhelliant yw’r rhinweddau hanfodol yr ydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o’n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaol a bydd disgwyl i chi barhau gyda’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.

  • HND mewn Cyfrifiadura neu Radd Sylfaen mewn Diogelwch TG yn Âé¶¹´«Ã½ÍŶÓ
  • Cyrsiau prifysgol mewn pynciau megis cyfrifiadura, dylunio gemau cyfrifiadur, gwaith fforensig cyfrifiadurol, e-fasnachu, gemau, rheoli systemau gwybodaeth neu reoli cronfeydd data.
  • Cyflogaeth fel is-ddatblygwr neu dechnegydd cyfrifiaduron ayyb
  • Prentisiaeth mewn cwmni TG neu Gyfrifiadura addas

O leiaf 5 TGAU ar radd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf ar radd C neu’n uwch.

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFBE0041AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy