Yn gryno
Mae Safon Uwch Athroniaeth yn gwrs unigryw a heriol sy'n archwilio pedwar o feysydd unigryw syniadaeth athronyddol. Yn y pwnc, byddwch yn ystyried natur realiti, yn mynd i'r afael 芒'r athroniaeth foesol a'r cysyniad o 'ddaioni', ac yn ystyried - o safbwynt seciwlar - tarddiad a phwrpas y bydysawd. Byddwch yn ymdrin 芒'r meddylwyr mwyaf blaenllaw yn hanes dynoliaeth, yn ogystal 芒 thrafod damcaniaethau arloesol ynghylch ymwybyddiaeth a rhyddid pobl.
...ydych yn un sy'n gofyn, ac yn ceisio ateb, cwestiynau hanfodol, megis:
- Beth yw gwybodaeth?
- Ydyn ni'n gweld y byd fel y mae, neu ydy'r ffordd rydyn ni'n gweld y byd yn gamarweiniol?
- Ydy Duw'n bodoli a beth yw problem drygioni?
- Beth yw natur meddwl ac ydy hi'n bosib esbonio'r meddyliol mewn termau ffisegol yn unig?
- Beth yw 'daioni' yn nhermau moesoldeb, a beth yw natur iaith foesol?
Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu'n bedair rhan:
- Epistemoleg (Theori Gwybodaeth)
- Athroniaeth Foesol
- Metaffiseg Duw
- Metaffiseg Meddwl
Ym mhob un o'r meysydd hyn, byddwch yn ymdrin 芒 thestunau a syniadau rhai o'r meddyliau mwyaf blaenllaw yn hanes, i'ch helpu i fynd i'r afael 芒'r cwestiynau uchod a llawer iawn mwy. Bydd eich astudiaethau'n cynnwys ymdrin 芒 thestunau gosod, trafodaethau tanbaid ac ysgrifennu traethodau.
Cwrs Safon Uwch llinellol yw'r cwrs hwn. Ni fydd arholiad Safon UG ar 么l y flwyddyn gyntaf.
Byddwch yn cael eich asesu drwy ddau bapur tair awr.
Drwy gwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Safon Uwch Athroniaeth
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd arnoch angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Gradd B mewn Saesneg a Mathemateg ac un pwnc dyniaethau, megis Hanes neu Addysg Grefyddol.
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal 芒 pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau 芒'ch astudiaethau a'ch darllen ehangach yn ystod eich amser eich hun.
Mae Athroniaeth yn bwnc Safon Uwch heriol ac uchel ei barch. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ystyried y pwnc yn un heriol o safbwynt academaidd ac yn bwnc tu hwnt o ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau gradd a llwybrau cyflogaeth. Mae Athroniaeth yn bwnc defnyddiol ar gyfer rhai sy'n ystyried gyrfa mewn meysydd megis moeseg (meddygol, llunio polis茂au etc), y gyfraith, llywodraeth, gwasanaeth sifil, newyddiaduraeth, busnes, y byd academaidd ac addysg.
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd arnoch angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Gradd B mewn Saesneg a Mathemateg ac un pwnc dyniaethau, megis Hanes neu Addysg Grefyddol.
Os yw'n bosib, byddwn yn darparu cop茂au o destunau gosod priodol i fyfyrwyr. Mae dau werslyfr cysylltiedig 芒'r cwrs y byddem yn cynghori myfyrwyr i'w prynu. Yn ogystal, bydd cyfleoedd yn codi i gymryd rhan mewn gweminarau, darlithoedd a sgyrsiau athroniaeth, a digwyddiadau eraill a ystyrir yn berthnasol i'r ddisgyblaeth.