Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o astudiaethau ffilm i'ch galluogi chi i benderfynu ble mae eich angerdd.
... Ydych eisiau mynd ymlaen i addysg uwch yn y pwnc
... Ydych eisiau gweithio yn y diwydiant ffilm
... Ydych am gwrs astudio ymarferol a damcaniaethol
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi os ydych am fynd ymlaen i addysg uwch, gweithio yn y diwydiant ffilm neu os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc. Mae'r cwrs hwn yn cynnwys astudio nodweddion:
- Ffilmiau (yn cynnwys setiau, celfi, gwisgoedd, colur, gwaith camera, goleuo, golygu, sain, perfformio)
- Naratif, genre a chynrychioli
- Gwahanol lwyfannau gwylio ac ymatebion cynulleidfaoedd i ffilmiau
- Diwydiannau ffilm Hollywood a Phrydeinig
- Sinema'r byd
- Astudiaeth feirniadol ar ffilmiau
Mae'r cwrs Lefel U yn dilyn patrwm tebyg, gan eich caniat谩u chi i greu cynhyrchiad ymarferol arall (sgript ffilm ar gyfer ffilm ffuglen, sgript ar gyfer rhaglen ddogfen neu ffilm fer) sy'n gysylltiedig 芒 phrosiect ymchwil.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal 芒 pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Gallwch fynd ymlaen i addysg uwch (cyrsiau HND neu BA) mewn pwnc ffilm, cyfryngau neu gyfathrebu. Mae rhai cyrsiau gradd yn rhoi mwy o bwyslais ar gynhyrchu creadigol ac yn gallu bod wedi鈥檜 lleoli mewn adrannau celf a dylunio neu鈥檙 celfyddydau perfformio, yn ogystal ag mewn adrannau cyfryngau, ffilm a chyfathrebu. Mae cyrsiau eraill yn pwysleisio sgiliau beirniadol. Yn aml, mae cyrsiau gradd yn cynnig cyfuniad o elfennau ac agweddau creadigol a beirniadol.
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Oherwydd natur ddadansoddol y cwrs, awgrymir (er nad yw'n ofyniad) bod dysgwyr yn cyflawni gradd B yn TGAU Llenyddiaeth Saesneg.