Âé¶¹´«Ã½ÍŶÓ

En

RTITB Llwythwr Telesgopig ar gyfer Tir Garw

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Trafnidiaeth a Logisteg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hyfforddiant gweithredwr Llwythwr Telesgopig Deunyddiau yn rhoi’r sgiliau i chi weithredu’r wagen fforch godi yn ddiogel ac yn effeithlon, cynnal arolygiad cyn defnyddio ac adalw ac esbonio’r hyn sy’n achosi ansefydlogrwydd ar gyfer y wagen fforch godi ac ansefydlogrwydd llwyth. Caiff Llwythwyr Telesgopig Deunyddiau eu defnyddio’n eang ar draws y diwydiant adeiladu a’r diwydiant amaeth o ganlyniad i’w natur amlbwrpas a’u gallu i symud llwythi o bob siâp a phob maint. Fel arfer, mae’r peiriannau yn fwy amryddawn na wagen fforch godi wrthbwyso lai o ganlyniad i’w gallu i estyn i fyny ac ymlaen a’i chapasiti codi mwy.

Ar lwyddo i gwblhau’r cwrs, dyfernir trwydded achrededig RTITB i chi a fydd yn ddilys am 3 blynedd.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim sy’n cynnig dysgu hyblyg, cyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd)

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth gan ennill yn llai na £34,303 y flwyddyn.

... unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa ym meysydd diwydiant adeiladu neu’r diwydiant amaeth lle y defnyddir llwythwyr telesgopig yn rheolaidd.

Cynnwys y cwrs

Caiff y cwrs hyfforddiant ei gwblhau dros 5 diwrnod. Erbyn diwedd y cwrs, dylech chi allu:

· Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth am y peiriant a sut i’w weithredu’n ddiogel

· Darganfod ac adnabod prif gydrannau a phrif reolyddion y peiriant ac esbonio eu swyddogaethau · Esbonio’r ffactorau sy’n effeithio ar sefydlogrwydd y wagen ac adnabod sut i gynnal sefydlogrwydd y wagen a’r llwyth

· Esbonio’r peryglon sydd ynghlwm â gorlwytho’r wagen a dangos sut i atal gorlwytho

· Cynnal pob gwyriad cyn gweithredu

· Cynnal pob gwiriad diogelwch angenrheidiol yn y maes gwaith

· Symud y peiriant yn ddiogel pan fydd yn llwythog a heb lwyth, ar draws tir amrywiol mewn ardaloedd agored ac ardaloedd caeedig ac ar lethrau

· Cyflawni tasgau codi a llwytho, gan ddefnyddio tŵr llwytho (sgaffaldiau) a/neu cerbyd ffordd

· Ffitio, addasu a/neu dynnu atodiadau

· Cyflawni pob gweithdrefn diwedd sifft a chau i lawr

Bydd gofyniad i chi basio prawf theori ac asesiad gweithredydd ymarferol er mwyn cwblhau’r cwrs

Gofynion Mynediad

Sgiliau darllen ac ysgrifennu yn Saesneg ar lefel sylfaenol.

Fe’ch cynghorir i wisgo esgidiau diogelwch ond nid yw hyn yn orfodol. Am fod rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei gyflawni yn yr awyr agored, fe’ch cynghorir i wisgo’n briodol ar gyfer pob math o dywydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn dechrau eu dysgu, yn ystod eu dysgu ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, trafodir cynllun dysgu unigol gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu’r maes 
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd canlynol ar gyfer y cwrs hwn:

  • dyheadau gyrfa i ennill trwydded i wella rhagolygon swyddi
  • profiad blaenorol o wagen fforch godi
  • hyfforddiant blaenorol neu dystysgrif flaenorol a enillwyd yn y maes hwn
Ble alla i astudio RTITB Llwythwr Telesgopig ar gyfer Tir Garw?

MPLA0213AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.