Highfield Gwobr mewn Bwyd Iach a Diet Arbennig Lefel 2

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i鈥檙 cyflogwr
Lefel
2
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Bydd y cymhwyster hwn o fudd i unrhyw un sy'n paratoi ac yn gweini bwyd gan mai ei fwriad yw darparu dealltwriaeth sylfaenol o faeth a gofynion deietau arbennig er mwyn galluogi i brydau bwyd cytbwys gael eu paratoi sy'n cael effaith bositif ar iechyd.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Gallai hyn gynnwys cogyddion, porthorion cegin, staff sy'n gweini, gweithwyr iechyd gofal a gofalwyr plant.
Cynnwys y cwrs
Mae'r pynciau ar y cymhwyster un diwrnod hwn yn cwmpasu ystod o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth:
- Amlinelliad o'r canllawiau maeth cyfredol ar gyfer deiet iach
- Yr effaith mae deiet yn ei gael ar iechyd
- Technegau paratoi bwyd sy'n cynnal gwerth maethol bwyd
- Sut i gynllunio a darparu prydau i rai ag anghenion deietegol arbennig (gan gynnwys anghenion meddygol, alergeddau, feganiaid, llysfwytawyr a deietau ar gyfer gwahanol ffydd).
Bydd dysgwyr yn cwblhau arholiad amlddewis.
听
Gofynion Mynediad
Does dim gofynion ymlaen llaw ar gyfer y cymhwyster hwn, er mai'r argymhelliad yw bod dysgwyr eisoes听yn dal Dyfarniad Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd neu gyfatebol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer gr诺p o'u gweithwyr, nid ar y campws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu'r cwrs ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.
Caiff y ddwy uned a argymhellir uchod eu cyflwyno dros ddau ddiwrnod. Gall dyfynbris ffurfiol gael ei roi pan fyddwn ni鈥檔 deall eich anghenion hyfforddiant ond, fel canllaw, rydym yn codi 拢585 (gan gynnwys yr holl hyfforddiant, adborth a marcio) yn ogystal 芒 ffioedd ychwanegol y corff dyfarnu (tua 拢11 y dysgwr).
BCEM0039AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒 ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.