Agored Cymru Diploma mewn Addysg sy’n Gysylltiedig â’r Byd Gwaith (Gofal) Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Dysgu ac Addysg
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 1 ar radd Teilyngdod neu uwch. Cymhwyster Sgiliau Hanfodol gan gynnwys Mathemateg, Saesneg neu'r ddau (ar gyfer dysgwyr sy'n symud ymlaen yn fewnol) O leiaf 4 TGAU gradd D (Mathemateg a Saesneg yn well).
Yn gryno
Cwrs paratoi yw hwn i helpu dysgwyr i feithrin eu sgiliau cyflogadwyedd yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar ofalu am blant, ymarferion cyfoes, iechyd a datblygu, iechyd a diogelwch, chwarae a gweithgareddau creadigol sy'n gysylltiedig â deddfau presennol
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych chi am weithio â phlant, pobl ifanc ac/neu yn y sector iechyd.
... Ydych chi am ennill cymwysterau pellach yn y maes Gofal Plant neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
... Ydych am ddatblygu eich gwybodaeth a sgiliau presennol ymhellach.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd dysgwyr yn meithrin gwybodaeth a sgiliau, gan gynnwys rhifedd a llythrennedd, i baratoi ar gyfer ennill cymhwyser yn y meysydd Gofal Plant neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae'r cwrs yn rhedeg dros 4 diwrnod yn y coleg ac mae'n cynnwys ystod o bynciau megis:
- Cynllunio Gyrfa.
- Iechyd a Diogelwch.
- Gweithio yn Unol â Safonau Ymarfer Da.
- Cyfathrebu’n Dda yn y Gweithle.
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
- Sgiliau Cyfweld.
- Profiad Gwaith (dysgwyr yn cwblhau lleoliad gwaith am o leiaf 50 awr).
Bydd y cwrs yn meithrin gwybodaeth bwnc ac yn asesu galluoedd mewn cyd-destun damcaniaethol ac ymarferol. Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau asesiadau mewnol ac allanol. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd modd i chi symud ymlaen i gyflogaeth neu gwrs arall yn Âé¶¹´«Ã½ÍŶÓ.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae'r penderfyniad i lwyddo ac angerdd am ddysgu yn ofynnol ar gyfer y cwrs hwn. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb, sy'n cynnwys gloywi sgiliau, yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunan gymhelliant.
Bydd disgwyl i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith fel rhan o'r cwrs hwn.
Mae'r cwrs yn cynnwys asesiad parhaus sy'n cynnwys cydrannau damcaniaethol ac ymarferol. Disgwylir i chi fynd ati i gyflawni eich astudiaethau a gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd modd i chi symud ymlaen i gyflogaeth neu gwrs arall yn Âé¶¹´«Ã½ÍŶÓ.
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant - CBAC/City& Guilds.Â
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS Manwl boddhaol cyn dechrau'r cwrs (ar eu cost eu hunain). Rhaid gwneud Cais DBS yn Âé¶¹´«Ã½ÍŶÓ.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
PFDI0640AB
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr