Baglor yn y Celfyddydau – Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
22 Medi 2025
Gofynion Mynediad
Caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar sail unigol.
Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr rhwng 18 a 21 oed feddu ar isafswm o 3 chymhwyster TGAU (gradd C neu uwch) sy’n cynnwys Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg neu bwnc Gwyddoniaeth. Yn ogystal â chymhwyster Lefel 3 megis Diploma Cenedlaethol BTEC neu Safon Uwch sy’n gyfwerth neu’n uwch na 48 o bwyntiau UCAS.
Cyfrifiannell tariff UCASÌý
Croesawir myfyrwyr hÅ·n (21 oed +) ac ymdrinnir ag ymgeiswyr ar sail unigol. Er nad oes angen meddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc ac awydd ymrwymedig i ddysgu yn hanfodol.
Ìý
Yn gryno
Anelir y cymhwyster BA mewn Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu CaneuonÌýat fyfyrwyr sydd am ganolbwyntio ar gynhyrchu sain ac ysgrifennu caneuon.
Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar y diwydiant cerddoriaeth o gyfansoddi ac ysgrifennu caneuon i gynhyrchu mewn stiwdio a chyfansoddi a sain ar gyfer ffilmiau.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych chi'n angerddol dros gerddoriaeth boblogaidd
... Ydych chi’n chwilio am gwrs ymarferol i roi profiad i chi
... Ydych chi am ennill cyfuniad o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn cael eich addysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol, yn ymgymryd â phrosiectau go iawn a chymryd rhan mewn gweithdai gydag artistiaid sy'n ymweld.
Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy i helpu i ddysgwyr symud ymlaen mewn eu dewis o faes cerdd.
Byddwch yn dod yn raddedig a fydd yn gwella'r sin gerddoriaeth yng Nghymru, gan gyfrannu ag amrywiaeth o wahanol ddisgyblaethau.
Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:
Cynhyrchu yn y Stiwdio : Hyfedredd Technegol yn y stiwdio.
Ysgrifennu Caneuon : Datblygu sgiliau a thechnegau ysgrifennu caneuon.
Cyfansoddi a Sain ar gyfer Ffilmiau : Datblygu sgiliau Cyfansoddi / Sain Foleyar gyfer Ffilmiau.
Y Cydweithredwr Cerddoriaeth : Datblygu sgiliau cydweithio a rhwydweithio.
Byddwch yn defnyddio ein stiwdios recordio o’r radd flaenaf sy’n cynnwys desg Audient HE8024, ystod lawn o ficroffonau Neumann gan gynnwys recordio deuglust pen dymi.
Mae ein hystafell ôl-gynhyrchu yn cynnwys ystafell sain Foley gyda galluoedd ‘sain i lun’ llawn, cyfleusterau DAW o ansawdd uchel a dewis helaeth o offerynnau cerddoriaeth electronig analog.
Mae ein stiwdios hefyd yn cynnwys consol cymysgu sgrin gyffwrdd Steven Slate Raven MTI2.
Mae ein dewis o bennau a chabiau seinchwyddwr yn cynnwys Soldano slo 100w, Vox AC30 a Marshall JCM 900.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Efallai y gofynnir i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn gweithdy neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o’r broses ddethol.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â dangos parch at bobl eraill, brwdfrydedd am y pwnc, hunan-gymhelliant, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Llwybr Dilyniant:
Msc Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru
MA Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu ym Mhrifysgol De Cymru
Peirianneg Stiwdio
BBC (rolau amrywiol)
Ô³¢-³Ò²â²Ô³ó²â°ù³¦³ó³Ü
Cyfansoddwr Caneuon Llawrydd
Peiriannydd Sain Llawrydd
Cyfansoddi ar gyfer Ffilmiau
Cerddoriaeth Llyfrgell
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFDA0003AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 22 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr