Âé¶¹´«Ã½ÍŶÓ

En

Prentisiaeth - Gosodiad Electrodechnegol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Prentisiaethau

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu Agored/o Bell
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Sector

Sector
Adeiladu

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae prentisiaeth mewn Gosod Trydan yn gwrs 4Ìý blynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi gan gwmni gosod trydan neu gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod yr wythnos.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Tra byddwch ar y safle gyda'ch cyflogwr byddwch yn meithrin sgiliau a phrofiad o weithio ar dasgau gosod trydan. Ar y dechrau, byddwch yn gwneud tasgau lefel isel ac yn helpu trydanwr cymwys i wneud eu gwaith; ond dros amser, byddwch yn ennill profiad fel y gallwch gefnogi eich cyflogwr i osod, cynnal a chadw ac atgyweirio systemau trydanol eich hun. Gall hyn gynnwys systemau pŵer, gwresogi, goleuadau, systemau diogelwch a thechnolegau ynni adnewyddadwy.

Cynnwys y cwrs

Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg un diwrnod yr wythnos, ac mae'n cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol, yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

Ìý

Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o’r radd flaenafHyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistigGwersi theori mewn ystafelloedd dosbarth llawn cyfarparYmweliadau gan Asesydd Dysgu Seiliedig ar WaithTrafodaethauArddangosiadauSesiynau tiwtorial un i un a sesiynau tiwtorial grŵp

Gofynion Mynediad

Lleiafswm o 3 TGAU gradd A* i C mewn Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a chymhwyster seiliedig ar Wyddoniaeth neu Dechnoleg
a

I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd.
a

Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.

Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý

Gwybodaeth Ychwanegol

Gellir cwblhau'r brentisiaeth hon mewn 3 blynedd os oes gennych Graidd Lefel 2 mewn Peirianneg Adeiladu neu Wasanaethau Adeiladu sydd hefyd ar gael trwy ein cynnig llawn amser a rhan amser.

Ble alla i astudio Prentisiaeth - Gosodiad Electrodechnegol?

AWBL0616AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch apprenticeships@coleggwent.ac.uk.